Bwriad Sam’s Learning Tree yw cynnig cyfle i bob plentyn ddarganfod ei lawn botensial ac i ddarparu cymuned ofalgar a hapus lle mae eu hanghenion academaidd, corfforol a chymdeithasol yn cael eu diwallu.
Mae gan Sam’s Learning Tree 5 uned gofal plant gwahanol – Babanod, Tweenie, Cryts, Cyn Ysgol a Chlwb Sam. Ymhob ardal rydym yn gweithredu system o ‘Ddysgu drwy Chwarae’. Mae bob ardal yn cynllunio eu gweithgareddau i gynnwys holl agweddau o ddatblygiad y plentyn yn benodol i’w hoedran a’u gallu. Mae gan bob plentyn ffeil datblygiad lle cofnodir ei datblygiad bob 3 mis. Mae’r ffeil yma yn dilyn eich plentyn o ardal i ardal ac yn rhywbeth i chi ei gadw pan fydd eich plentyn yn symud i’r ysgol yn llawn amser.
Mae’r Uned Babanod, Tweenie a Chryts yn dilyn Fframwaith Birth to Three Matters. Mae pob ardal yn darparu amgylchedd ddiogel gyda offer i gadw diddordeb ac i ysgogi eich plentyn. Ymhob ardal mae’r plant yn cael budd o gymorth a rhyngweithiad oedolyn. Bydd elfen o sialens a hwyl i’r gweithgareddau ac yn benodol i ofynion unigol pob plentyn, tra’n cynnwys amrediad eang o weithgareddau. Fel rhiant byddwch yn derbyn taflen gofnod ddyddiol i roi gwybodaeth i chi am weithgareddau eich plentyn.
Mae’r Uned Cyn Ysgol yn caniatáu mwy o annibyniaeth i’r plant a mwy o ryddid i ddewis eu gweithgareddau, tra’n sicrhau eu bod yn cael profi amrywiaeth o dasgau fydd yn galluogi eich plentyn i gyflawni ei lawn/llawn potensial. Yn yr ardal yma mae’r saith Nodau Dysgu Cynnar yn cael eu cynnwys i sicrhau fod y plant i gyd yn derbyn y Cwricwlwm Sylfaenol. Cyflawn.
Byddwn yn paratoi eich plentyn i’r ysgol ac i fywyd drwy eu cyflwyno hwy i’r canlynol:
Dysgu drwy hwyl a chwarae
Datblygiad hunan ddelwedd iach
Amlygu potensial eich plentyn mewn ystod eang o sgiliau datblygol a chyfathrebol
Dysgu rhannu a chysylltu gyda phlant eraill ac oedolion mewn ffordd bositif
Ymarfer hunan reolaeth a gwneud penderfyniadau
Datblygu pharch i eraill a diwylliannau eraill
Ymgymryd a chyfrifoldeb sy’n addas i’w hoedran drwy weithgareddau grŵp a thasgau penodol
Datblygu arferion trefnusrwydd a glendid ac ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch sylfaenol
Dysgu am fwydydd maethlon a’r rhesymau pam fod y bwyd yma yn dda i bobl a chyflwyniad i goginio addas
Profi gweithgareddau darllen er mwyn paratoi ar gyfer darllen ffurfiol
Datblygiad sgiliau trin adnoddau a sgiliau eraill ar gyfer ysgrifennu ffurfiol
Cyflwyniad i Fathemateg, Gwyddoniaeth a Chelf drwy archwilio siapiau, rhifau, maint, pethau a ddarganfuwyd ym Myd Natur a’r amgylchedd
Dysgu y gall llyfrau a’r Cyfryngau gyflwyno amgylchedd cwbwl newydd
Dysgu sut i fod yn ddiogel
Datblygu sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
Deall a datblygu eu cryfderau a’u gwendidau ei hunain
Datblygu brwdfrydedd i ddysgu
Gwneud ffrindiau o bob oed a gwella sgiliau cymdeithasol
Datblygu mentrusrwydd a dysgu sut i ddefnyddio’r sgil yma
Profi ystod eang o offer i’w defnyddio er mwyn dysgu
Cyflwyniad i Ddrama, Addysg Gerddorol a Chorfforol drwy amrywiaeth o weithgareddau a gemau tu mewn a thu allan