Yn ôl y dywediad Saesneg:-
‘Children should be seen but not heard and Children should not speak unless spoken to’
Ein bwriad ni yw bod eich plentyn yn mwynhau y cyfnod yma, a fydd yn cynnwys rhedeg o gwmpas a chwarae gemau swnllyd yn ogystal ag amseroedd tawel i eistedd a thrafod neu ddarllen. Rydym yn gobeithio annog eich plant i ofyn cwestiynau, gofyn am deganau i chwarae neu lyfrau i’w darllen ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp gymaint a phosibl.
Felly, teimlwn y dylid newid y dywediad uchod i:
‘Children at Sam’s will be seen, heard and encouraged to talk and discuss at all times’!
Credwn yn gryf na ddylid cosbi plant drwy eu taro neu eu hysgwyd neu drwy ymarferion a fyddai’n eu bychanu neu roi braw iddynt. Credwn yn gryf nad oes unrhyw amgylchiadau lle gellir cyfiawnhau cosb o’r fath. Anogir staff i ddefnyddio technegau positif o arweiniad i osgoi anghytuno na all plant ymdopi a dileu problemau potensial. Os bydd ymddygiad plentyn yn rhoi pryder rheolaidd i staff (cnoi, taro, sgrechian, bwlio ayb) byddwn yn trafod hyn gyda’r rhieni/gwarchodwyr, er mwyn ein galluogi i ddatrys y broblem yn y ffordd orau posib gan geisio rhwystro’r plentyn penodol rhag parhau a’r ymddygiad yma. Gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn ein Polisi Ymddygiad – gofynnwch i aelod o staff i’w weld.