Mae gan bob uned yn Sam's Learning Tree gyfleusterau arwahan, i gyd wedi’u cynllunio’n dda ac yn darparu gweithgareddau addas i oed a datblygiad y plentyn. Mae gan bob uned system gerddoriaeth, teledu gyda fideo/DVD a nifer o deganau/gemau ac eitemau addysgol i hybu dysgu gweithredol. Mae’r rhain yn cynnwys jig-sos, gemau pâr, offerynnau cerddorol, mwclis, pasta, tywod, dwr, blociau pren, Lego, Duplo, Bagiau Ffa, ceir, dolis, trenau, llyfrau, chwarae rôl, gwisgo fyny, celf a chrefft (papur, paent, glud, creonau, pensiliau, sisyrnau, toes), goginio, chwarae hewristig (eitemau naturiol), teganau byd bach, fideos tumble tots a llawer mwy.

Uned Babanod – 4 wythnos i 12 mis. Mae gan yr uned hon ystafell gysgu/tawel ac ystafell fwydo/gweithgaredd. Mae ganddi ardal newid arwahan a mynediad uniongyrchol i’r brif fan chwarae tu allan. Hefyd ceir mynediad arall i ardal chwarae tu allan sy’n llai a fydd yn cael ei rannu gyda’r Tweenies.

Uned Tweenies – 12 mis i 24 mis. Mae gan yr uned hon ddwy ystafell chwarae a charped ac ystafell weithgaredd gyda llawr meddal. Mae ystafell newid arwahan ac ardal chwarae tu allan ei hunain. Mae ganddynt fynediad hefyd i’r brif ardal chwarae.

Uned y Cryts – 2 oed i 3 mlwydd oed. Mae gan yr uned hon ddwy ystafell chwarae a charped ac ystafell gweithgaredd llawr meddal. Mae ganddynt ystafell ymolchi arwahan gyda bwrdd newid a 2 doiled isel.

Uned Cyn Ysgol – Plant dros 3 mlwydd oed sydd yn cael eu paratoi i fynd i’r ysgol. Bydd rhai o’r plant yma yn dod i’r Sesiynau Am ddim, bydd eraill yn mynd i’r dosbarthiadau Meithrin yn yr ysgolion cynradd lleol. Estyniad yw’r Uned Cyn Ysgol o’r adeilad gwreiddiol a agorwyd ym mis Ionawr 2006, mae ar ddau lawr – ardal fyny grisiau gyda charped ac ardal lawr grisiau gyda llawr meddal. Mae gan y ddau lawr ystafell ymolchi. Mae gan yr ardal yma ei safle tu allan ei hun a mynediad uniongyrchol i’r ardal chwarae bob tywydd tu allan.

Clwb Sam – Plant oedran ysgol llawn amser. Mae gan yr ardal yma ystafell llawr meddal a dwy ystafell gyda charped a thoiledau arwahan. Mae 2 gyfrifiadur, gem VTech, bwrdd pêl-droed a nifer mwy o deganau i symbylu meddwl eich plentyn tra’n chwarae.