Cofiwch ddarparu nifer ddigonol o glytiau, wipes ac eli i’ch plentyn bob dydd, mae gennym ddarpariaeth fechan o glytiau, a fydd ar gael ond codir tal amdanynt. Yn ychwanegol fe ddylech ddarparu digon o boteli llefrith ar gyfer bwydo, ac unai llefrith fformiwla neu llefrith mam ar gyfer gofynion dyddiol eich plentyn yn ogystal a dillad i newid rhag ofn damweiniau bach sydd yn digwydd!

Cofiwch labeli dillad sbâr hefyd, siacedi, esgidiau ayb.

Gofynnwn i chi wisgo eich plentyn yn addas i’r tywydd, (siorts/sgert, crys t a siaced ysgafn yn yr Haf, trowsus/sgert gyda theits, top a siwmper gyda siaced drymach yn y Gaeaf). Mae hetiau ac eli haul yn ofynnol yn yr Haf ac esgidiau glaw, sgarff a menig ar gyfer dyddiau oer.

Dysgu mynd i’r Toiled – rydym yn hapus i gynorthwyo rhieni yn y ‘datblygiad ddamweingar’ yma a gofynnir i chi ddod a sawl pâr o ddillad isaf, trowsus, teits a sanau ac esgidiau i newid hefyd.

Mae 95% o blant yn dueddol o gael eu atynnu gan fwd/paent/clai wrth edrych arnynt yn unig, felly gofynnwn i chi ddod ag ail set o ddillad glan wedi eu labeli’n glir mewn bag gyda hwy bob dydd. Mae’n gwneud synnwyr gwisgo eich plentyn mewn dillad addas ac esgidiau addas, nad ydych yn poeni os ydynt yn eu baeddu.