Nid ydym yn rhydd i drafod lles plentyn gydag unrhyw berson arall ag eithrio rhiant y plentyn neu warchodwr apwyntiedig. Fodd bynnag, os bydd gan unrhyw aelod o staff unrhyw bryderon yn ymwneud a diogelwch plentyn, byddwn yn cadw at ein Polisi Amddiffyn Plant.

Mae’r Feithrinfa wedi’u hagor i ddarparu adnoddau gofal plant i rieni sy’n gweithio; er ein bod yn gweithio i’r rhieni, ein prif gonsyrn yw lles y plentyn. Bydd unrhyw weithred a gymerir gennym mewn perthynas ag ymwneud a grwpiau eraill wedi ei wneud er lles y plentyn. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein Polisi Amddiffyn Plant yn y Feithrinfa.