Os byddwch yn anhapus gydag aelod o staff presennol, gofynnwn yn gyntaf i chwi leisio eich pryderon i Sasha neu Michelle, lle byddwn yn cael sgwrs anffurfiol a gwneud trefniadau i gael cyfarfod rhwng yr aelod o staff, rhiant a phlentyn os bydd hyn yn angenrheidiol. Yn y rhan fwyaf o achosion rydym wedi darganfod mai fel yma yw’r dull mwyaf effeithiol o ddatrys y broblem a’r anhapusrwydd ac fel arfer camddealltwriaeth yw’r broblem gan y naill a’r llall.
Dylai unrhyw gwynion sydd gennych chi fel rhiant/gofalwr ddod ger bron uwch aelod o staff yn ddi oed. Bydd cofnod o’r gwyn yn cael ei roi yn y llyfr cwynion a bydd pawb sydd yn ymwneud ar mater yn cael gwybodaeth o unrhyw weithred a gymerir i geisio ateb y broblem.
Yr unig ffordd y gallwn ymdrechu i wneud gwelliannau yw os ydym yn cael ein cynghori ynglŷn a’ch barn, er enghraifft, peidiwch a disgwyl i ni ‘beidio a rhoi afalau i James’ oni bai fod y rhiant/gwarchodwr yn gofyn i ni beidio.
Gellir cael mwy o fanylion ynglŷn a’ch cwyn yn ein Llyfr Cwynion, a gellir cael golwg arno yn y Feithrinfa.
Fel rhieni/gwarchodwyr/gofalwyr gallwch gysylltu a CSIW yn uniongyrchol gyda unrhyw gwynion/pryderon ar 01352 707900
|