Bydd eich plentyn yn ystod y cyfnod yn Sam’s Learning Tree yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn nifer fawr o weithgareddau addysgol a gemau. Bydd yr offer a ddarperir ar eu cyfer yn addas i’w hoed a’u datblygiad. Bydd gan bob plentyn y rhyddid (o fewn rheswm) i ddewis eu gweithgareddau, a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu hunan ddisgyblaeth gan ddod yn ddysgwyr brwdfrydig.

Ymhob uned bydd gan y plant gyswllt aml ag oedolion, a fydd yn rhyngweithio a hwy ac yn caniatáu iddynt archwilio eu hamgylchedd yn ddiogel. Byd ganddynt gyfleon rheolaidd i fynd tu allan a darperir iddynt brydau bwyd maethlon a byrbrydau, wedi eu coginio’n ddyddiol gan ein cogydd cymwys.
   
Bydd bob plentyn yn cael mynediad i gwricwlwm amrywiol, a fydd yn caniatáu iddynt:- i fod yn greadigol ac i symbylu eu dychymyg, hybu datblygiad iaith, datblygu sgiliau gweithredol a chyd symudiad, sefydlu dealltwriaeth sylfaenol o bynciau cwricwlwm cenedlaethol, datblygu sgiliau cyfrifiaduron sylfaenol.

Mae’r Unedau Babanod, Tweenie a Chryts yn dilyn Fframwaith Birth to Three Matters sydd yn cynnwys 4 ardal:- Y Dysgwr Cymwys, Y Plentyn Cryf, Y Plentyn Iach a’r Cyfathrebwr Medrus.

Mae’r Uned Cyn ysgol yn dilyn y Cwricwlwm Sylfaen, sydd yn dilyn yr Amcanion Dysgu Cynnar canlynol:- Datblygiad Personol, Cymdeithasol ac Emosiynol, Cyfathrebiaeth, Iaith a Llythrennedd, Datblygiad Mathemategol, Datblygiad Corfforol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd, Datblygiad Creadigol a Datblygiad Moesol a Diwylliannol.