Ar bob adeg bydd nifer gofynnol o staff (yn ddibynnol ar y nifer o blant yn bresennol) yn bresennol yn yr adeilad sydd a thystysgrif cymorth cyntaf cymwys (Arddangosir y Tystysgrifau yn Ffeil Cymhwyster y Staff yn y swyddfa). Mae bocs cymorth cyntaf yn y swyddfa gyda chynnwys priodol o rhwymynnau. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw feddyginiaeth, eli neu hufenau heb ganiatâd ysgrifenedig y rhieni/gofalwyr ar gyfer pob achlysur. Rhoddir hwy yn unig os ydynt yn eu pecynnau gwreiddiol ac wedi eu labeli’n glir gyda enw’r plentyn. (Gweler Polisi Iechyd a Salwch).