health and sickness policy
left nav introduction blue nav what we offer blue nav health and safety blue nav staffing right nav

Ein bwriad yw hybu iechyd da a glanweithdra i holl blant a staff yn ein Meithrinfa. Os yw eich plentyn yn dioddef o unrhyw gyflwr meddygol h.y. asthma rhaid i chi gofnodi hyn ar y ffurflen mynediad fel bod yr holl staff yn ymwybodol o unrhyw broblemau all godi o’r cyflwr yma. Rhaid darparu anadlwyr a gellir eu cadw yn ffeil y plentyn.

Bydd plant a staff yn cael eu monitro am arwyddion a symptomau o afiechydon trosglwyddiad megis brech yr ieir, dolur rhydd, llid yr amrannau, llai pen, hepatitis, y frech goch, llid yr ymennydd, rwbela, chwydu a thymheredd dros 38 C neu fwy.

Rhaid i bob plentyn neu aelod o staff sydd yn dioddef o unrhyw un o’r afiechydon trosglwyddadwy uchod aros draw o’r feithrinfa hyd nes y byddant yn well. Er lles pawb sydd yn y feithrinfa, gofynnwn i unrhyw blentyn/aelod o staff sydd yn dangos arwyddion o lid y stumog a’r perfedd aros draw o’r cyfleusterau am hyd at 48 awr wedi’i cyfnod o chwydu/dolur rhydd diwethaf, neu hyd nes bydd yr arwyddion wedi pasio. Yn yr amgylchiadau yma byddwn yn hepgor y ffioedd i blant gyda llid y stumog a’r perfedd gyda llythyr meddyg/ysbyty i’w cefnogi.

Rhaid i unrhyw blentyn sydd yn cymryd gwrthfiotigau aros draw o’r feithrinfa am y 48 awr cyntaf wedi eu cymryd.

Er lles pawb rhaid sicrhau bod eich plentyn yn ddigon da i ddychwelyd i ofal y feithrinfa, a rhaid i’r staff fod yn hapus cyn caniatáu ail fynediad. Mewn achos o argyfwng, damwain ddifrifol neu salwch sydyn, lle na fydd yn bosibl cysylltu a’r rhiant/gofalwr, bydd yr uwch aelod o staff yn cymryd yr awenau ac os yw’n angenrheidiol yn annog ymweld a’r ysbyty.

Os yw eich plentyn yn cymryd meddyginiaeth a fydd angen ei roi tra yn y feithrinfa, gofynnir i chwi lenwi taflen meddyginiaeth a’i harwyddo, a fydd yn cael ei chadw yn ffeil eich plentyn. Cofiwch labeli pob meddyginiaeth yn glir gan ddarparu llwy/chwistrell. Rhaid dod a phob meddyginiaeth i’r feithrinfa yn y pecyn gwreiddiol – dim ond meddyginiaeth sydd wedi’i labeli’n glir ac yn ei becyn gwreiddiol byddwn yn fodlon defnyddio.

Os bydd eich plentyn wedi bod yn cymryd meddyginiaeth gartref gadewch i’r feithrinfa wybod fel y gellir monitro cynydd y plentyn drwy gydol y dydd.

home home contact links