Mae Sam’s Learning Tree yn feithrinfa ddwyieithog, gyda staff sy’n medru’r Saesneg a’r Gymraeg. Mae nifer o’r gweithgareddau oddi mewn i’r cwricwlwm yn cael eu cyflwyno yn y ddwy iaith. Siaredir a darllenir i’r plant yn y ddwy iaith yn ogystal ag edrych ar lyfrau Cymraeg.

Drwy’r Feithrinfa mae’r plant yn gwrando ar gerddoriaeth mewn ieithoedd gwahanol a gwylio fideos yn cynnwys Ffrangeg ac Almaeneg.

Oddi mewn i’n cwricwlwm ni rydym yn datblygu dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol o amgylch y byd ac mae’r plant yn ymwneud a nifer o weithgareddau amlddiwylliannol. Rydym yn cyflwyno’r plant i’r gwyliau sy’n cael eu dathlu ar draws y byd yn ogystal a rhai hynny sy’n cael ei dathlu yn Lloegr a Chymru.
Os nad ydych yn dymuno i’ch plentyn fod yn rhan o weithgareddau o’r fath am unrhyw reswm gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r staff ac yn llenwi’r adran berthnasol ar y ffurflen mynediad.