Yn ystod prydau bwyd a byrbrydau rydym yn annog ymwybyddiaeth gymdeithasol, sydd yn aml wedi ei nodi i fod yn rhywbeth sydd yn gwella arferion bwyta plant. Mae’r bwyd yn fwyd maethlon ac amrywiol, rydym yn ceisio lle fo’n bosibl darparu cynnyrch ffres tymhorol, isod gellir gweld sampl o gynllun bwyd ar gyfer plentyn 3 mlwydd oed ar sail diwrnod llawn.

Y FWYDLEN

Byrbryd Bore (9.00am)Tost a llefrith

Cinio (hanner dydd) Pastai cyw iâr cartref gyda Pys, Moron ac i ddilyn Jeli a Hufen Ia

Byrbryd Pnawn (3.00pm) Ffrwythau Ffres neu fisged a dwr/sudd

Te (4.00pm) Brechdanau banana ar fara gwenith cyflawn, darnau o foron a ffrwythau ffres wedi eu torri.

Diodydd - Dwr, Llefrith Llawn ac amrywiaeth o ddiodydd heb siwgr.

Rydym yn cyflogi cogydd sydd yn coginio’r holl fwyd yn ddyddiol. Os oes gan eich plentyn anghenion bwyta arbennig, cofiwch nodi rhain ar eich ffurflen gais cyn cael mynediad. Mae’n bosib i ni ddarparu ar gyfer amrywiaeth o ddietau megis, Llysieuwyr, Fegan, bwyd heb glwten, heb lactos ayb a byddwn yn fwy na pharod i drafod bwydlen eich plentyn ymhellach.

Bydd unrhyw aelod o staff a fydd yn paratoi bwyd neu byrbrydau gyda thystysgrif Glanweithdra bwyd dilys.