Byddwn yn gwirio clytiau yn rheolaidd a’u newid pan fo angen. Os nad oes gwrthwynebiad gan y rhieni yn ystod newid clwt byddwn yn caniatáu sawl munud o ‘Gyfnod Heb y Clwt’ er mwyn gadael i’r bychan gael aer lle mae angen ac i gicio coesau.

Anogir y plentyn hyn sut i ddefnyddio’r toiled, drwy wylio plant mwy profiadol yn ei ddefnyddio ac ar adeg lle mae’r rhieni a staff yn teimlo y bydd yn hwylus. Bydd aelod o staff bob amser yn mynd gyda’r plentyn i’r toiled ac fe’i hanogir i ddysgu i wneud popeth ar ben ei hunain.

Cofnodir bob tro y bydd clwt yn cael ei newid drwy gydol y dydd ac unrhyw arsylwadau yn cael eu gwneud, arwyddion o boen bol, dannedd ayb.

Mae bob ardal newid clwt gyda bwrdd newid clwt, ardal gadw ar gyfer Clytiau a Wipes, Uned ddiheintiedig i gael gwared o glytiau ac yn yr Ardal Cryts mae yno hefyd, basn golchi dwylo i blant a thoiledau addas. Cofiwch labeli yr holl glytiau, wipes, hufenau ayb.