Oriau Agor: Oriau gweithredu arferol yw Dydd Llun i Ddydd Gwener o 7.00 y bore hyd 6.00 yr hwyr. Codir £4.00 am bob 15 munud os cesglir yn hwyr.
Ffioedd: Mae gostyngiad i Blentyn Ychwanegol (gefeilliaid) ar gael ar ffioedd yr ail/trydydd plentyn tra’n bresennol yn y feithrinfa.
Ffioedd i’w talu yn wythnosol/misol o flaen llaw mewn arian parod, siec i weinyddwr y swyddfa neu drwy archeb reolaidd drwy’r banc, Byddwn yn codi ffi o £10 am unrhyw sieciau a ddychwelir, gyda Thaliadau Hwyr, mae’r hawl gennym i godi llog o 5% uwchben y Radd Sylfaenol ar arian sy’n ddyledus wedi 7 diwrnod.
Mae Blaendal Ad-daladwy o £50.00 i’w dalu wrth fwcio’n lle y cyntaf (a’i ddychwelyd ar ôl i’r holl ffioedd gael eu talu a’r 4 wythnos lawn o rybudd wedi ei roi).
Os bydd rhaid canslo neu newid sesiynau sydd wedi eu bwcio o flaenllaw bydd rhaid codi’r Ffi Llawn oni bai y rhoddir pythefnos o rybudd. Hefyd nodwch, na ellir trosglwyddo sesiynau sydd wedi eu bwcio’n barod oni bai y rhoddir pythefnos o rybudd.
Ni fydd unrhyw ffioedd yn ddyledus pan fydd y Feithrinfa ar gau, mae hyn fel arfer yn cynnwys Gwyliau Banc a chyfnod y Nadolig/Flwyddyn Newydd.
Yn ystod salwch, mae’r Ffioedd Llawn yn ddyledus oni bai fod y plentyn dan sylw yn mynd i’r ysbyty lle na fydd ffioedd yn ddyledus. (nodyn o’r ysbyty yn ofynnol – ffioedd llawn yn ddyledus os na ddarperir nodyn).
Rhybudd tynnu nol o’r cyfleusterau – Mae pedair wythnos o rybudd ysgrifenedig yn ofynnol. Os methir gwneud hyn yna bydd y tîm rheoli yn cymryd camau i adennill y ffioedd a fyddai wedi bod yn ddyledus yn ystod y cyfnod rhybudd.
|