Adeiladau: Mae’r adeilad wedi’i leoli oddi ar Stryd y Dyffryn yn Y Rhyl gyferbyn a Depo ATS ac yn agos i Erddi Coronation (rhwng Ffordd y Dyffryn a Ffordd Grange). Cafodd yr adeiladau eu cymeradwyo i’w newid ar gyfer defnydd Canolfan Gofal Plant Dydd a Chanolfan Ddysg, cafodd yr adeilad ei hadnewyddu a gwnaethpwyd yr holl addasiadau yn unol a gofynion Rheoliadau Adeiladu.
Rydym yn darparu lleoliad mawr wedi’i drefnu’n dda i blant i fwynhau eu blynyddoedd cynnar, mae hyn yn cynnwys 2 ardal tu allan ar gyfer bob tywydd a 5 unedau tu mewn, bob un wedi eu rhannu i nifer o ardaloedd i ddarparu’r amgylchedd gywir i annog datblygiad y plentyn. Mae bob uned tu mewn wedi’i oleuo a’i awyru’n dda; mae’r ystafelloedd wedi’u haddurno mewn lliwiau lliwgar croesawgar, gydag amrywiaeth o addurnau a lluniau wedi’u harddangos. Mae gan yr ystafelloedd byrddau hysbysebu mawr lle arddangosir gwaith y plant. Mae gan bob ardal penodedig ei doiled ei hun a/neu cyfleusterau newid clwt, yn ddibynnol ar oed y plant ymhob ardal. Mae gennym gymeradwyaeth gan CSIW (Gofal Safonau Arolygiaeth Cymru) ar gyfer darpariaeth i 89 o lefydd.

Parcio: Mae lle parcio ar gyfer dod a’r plant a’u casglu ar gael yng nghefn yr adeilad a gofynnwn i chi ddefnyddio’r safleoedd yma yn unig pan rydych yn ymweld a ni. Gellir parcio ar ochr y ffordd o flaen yr adeilad, ond gwyliwch mae hon yn stryd brysur a dylid cymryd gofal gyda’ch plentyn wrth fynd i mewn ac allan o’r car. Mae ATS wedi rhoi gwybod i ni y bydd cerbydau sydd yn parcio y tu allan i’w hunedau hwy yn cael eu clampio a chost i dynnu’r clamp yn cael ei godi, gan fod yr ardal yma yn eiddo preifat mae ganddynt yr hawl i godi unrhyw bris, felly i osgoi unrhyw embaras awgrymwn nad ydych yn parcio o flaen ATS neu yn eu safleoedd parcio penodol.