Mae’n arferol i blentyn fynd i ddosbarth meithrin yr Ysgol Gynradd y bwriedir mynd iddi ar gyfer sesiynau bore neu brynhawn yn ystod y flwyddyn cyn iddynt ddechrau yn llawn amser yn yr ysgol. Rydym yn gallu darparu gwasanaeth ychwanegol lle mae’n bosib i ni fynd a’r plentyn i’r ysgol ddewisedig a’u casglu ar ddiwedd y sesiwn.

Mae hyn yn gwneud y trawsnewid i’r ysgol yn haws, a golygir na fydd yn rhaid i’r plant ddweud hwyl fawr i’w ffrindiau, felly yn parhau i gael rhywbeth adnabyddus bob dydd. Gofynnwch os yw yr ysgol yr ydych wedi’i ddewis ar ein rhestr.