Bydd bob aelod o staff yn cyflwyno ffurflen gais, yn cael eu cyfweld, ac wedi treulio amser yn y feithrinfa, a darparu tystlythyrau ysgrifenedig a prawf o’u cymwysterau. Yn ychwanegol byddant wedi cwblhau ffurflen feddygol a chyflwyno ffurflen i gael gwiriad CRB uwch.

Yna bydd bob aelod o staff ar gyfnod prawf am 3 mis yna byddant yn derbyn safle parhaol. Bydd yn ofynnol i bob aelod o staff fynychu cwrs cymorth cyntaf; cwrs symud a chodi: cwrs amddiffyn plant a chwrs glanweithdra bwyd yn ogystal bydd bob un yn cyflawni cyfnod anwytho yn ystod wythnosau cyntaf yn y gwaith.

Ni fydd yn ofynnol i berson a gyflogir fel Cynorthwyydd Meithrin gael cymhwyster, ond fe’i hanogir gan y tîm rheolaeth i ddilyn cyrsiau hyfforddi addas (y rhai mwyaf hanfodol wedi’u nodi uchod).

Unwaith bob rhyw bedair i chwech wythnos, cynhelir cyfarfodydd staff/unedau i sicrhau fod y staff yn ymwybodol o unrhyw ddeddfwriaeth newydd, nodau i’r dyfodol, a gwelliannau ac awgrymiadau staff.