Polisi Diogelwch
Gofynnir i chwi ar eich ffurflen gais enwi 2 neu 3 o bobl sydd a hawl i gasglu eich plentyn o’r feithrinfa, byddwn angen llun o bob un er mwyn i’r staff eu hadnabod a dim ond gan un o’r rhain ar y ffurflen bydd y staff yn gadael i’ch plentyn gael ei casglu ganddynt.
Yn achlysurol bydd angen oedolyn arall i gasglu eich plentyn ac mae’n angenrheidiol eich bod chi, y rhiant yn rhoi gwybod i ni o unrhyw newid yn nhrefn y casglu. Byddwn angen gwybod enw’r person a chyfrinair. Er lles a diogelwch eich plentyn a wnewch chi’n siŵr eich bod yn cadw i’r rheol yma.
Mae’r drws mynediad i’r cyfleuster yn cael ei weithredu gan ffon a fydd yn galluogi staff i siarad a chwi cyn i chi gael mynediad.
Canllawiau Tan
Bob mis byddwn yn cael dril tan, cedwir cofnod o bob dril, yn dangos y dyddiad, amser a hyd y dril ac unrhyw anawsterau a brofwyd a dull goresgyn y broblem y tro nesaf.
Mae copi ar gael o’r Dril Tan a’r cyfarwyddiadau tan ymhob ardal; bydd y staff yn gyfarwydd a’r canllawiau a gyda ymarfer parhaol bydd yr ymatebiad yn un awtomatig. Bydd dulliau cynnal a chadw y Larwm Tan, golau ac Offer Ymladd Tan yn cael ei wneud yn gyson a rhoddir tystysgrif ym mhob achos.