Mae bob aelod o staff yn cael cyfweliad gan y tîm rheolaeth, yna gwahoddir y rhai llwyddiannus i wneud cyfnod prawf, a fydd yn caniatáu y tîm rheolaeth i arsylwi sgiliau rhyngbersonol bob ymgeisydd a’u rhyngweithiad gyda’r plant.

Mae gan bob aelod o staff y cyfle i wella eu cymwysterau Blynyddoedd Cynnar ac Addysg drwy fynd ar gyrsiau a gweithdai. Mae cloriannu rheolaidd yn sicrhau bod holl aelodau staff yn frwdfrydig ac yn gwella drwy’r amser yn ei perfformiad. Isafswm y gofynion gan CSIW yw bod 80% o’r staff yn gymwysedig (NVQ2, NVQ3, NVQ4, NNEB, ayb). Byddwn yn sicrhau bod bob ardal yn cael ei arolygu gan aelodau staff cymwysedig a bod gan yr holl staff dystlythyrau a credwn y byddant yn ychwanegu at amgylchedd ein cyfleusterau, bydd rhain yn cynnwys:-


Rhiant ~ yn brofiadol ynglŷn a gofynion plant bach a’u personoliaethau unigol.

Taid/Nain ~ sydd yn dangos aeddfedrwydd a natur dawel a ddaeth gyda oed, sydd a gredwn yn rhoi hyder i blentyn swil/tawel i gymryd rhan, ac yn rhoi dylanwad lleddfol i blant mwy swnllyd.

Brawd/Chwaer o gefndir teulu mawr ~ sydd wedi arfer trefnu a chymryd rhan gyda grwpiau cymysg o ran oedran.